14 Sut all person meidrol fod yn lân?Neu un wedi ei eni o wraig honni mai fe sy'n iawn?
15 Os ydy Duw ddim yn gallu trystio ei angylion,a'r byd nefol ddim yn lân yn ei olwg,
16 sut mae'n edrych ar ddynoliaeth ffiaidd, lygredig,sy'n gwneud drwg fel mae'n yfed dŵr!
17 Gwna i ddangos i ti, os gwnei di wrando.Gwna i ddweud beth dw i wedi ei weld –
18 pethau mae dynion doeth wedi eu dangos;pethau wedi eu dysgu gan eu tadau,
19 Cafodd y tir ei roi iddyn nhw,a doedd pobl estron ddim yn eu plith nhw.
20 Mae'r dyn drwg yn dioddef poen ar hyd ei fywyd;a'r gormeswr creulon drwy gydol ei holl flynyddoedd.