16 sut mae'n edrych ar ddynoliaeth ffiaidd, lygredig,sy'n gwneud drwg fel mae'n yfed dŵr!
17 Gwna i ddangos i ti, os gwnei di wrando.Gwna i ddweud beth dw i wedi ei weld –
18 pethau mae dynion doeth wedi eu dangos;pethau wedi eu dysgu gan eu tadau,
19 Cafodd y tir ei roi iddyn nhw,a doedd pobl estron ddim yn eu plith nhw.
20 Mae'r dyn drwg yn dioddef poen ar hyd ei fywyd;a'r gormeswr creulon drwy gydol ei holl flynyddoedd.
21 Mae'n clywed sŵn sy'n ei fygwth o hyd,a phan mae bywyd yn braf mae'r dinistrydd yn dod.
22 Does ganddo ddim gobaith dianc o'r tywyllwch;ac mae'n gwybod y bydd y cleddyf yn ei ladd.