22 Does ganddo ddim gobaith dianc o'r tywyllwch;ac mae'n gwybod y bydd y cleddyf yn ei ladd.
23 Mae'n crwydro – bydd yn fwyd i fwlturiaid;ac mae'n gwybod fod y diwrnod tywyll yn dod.
24 Mae'n cael ei ddychryn gan ofida'i lethu gan bryder,fel brenin ar fin mynd i ryfel.
25 Am ei fod wedi codi ei ddwrn i fygwth Duw,a gwrthwynebu'r Duw sy'n rheoli popeth.
26 Wedi ei herio ac ymosod arnoâ'i darian drwchus gref!
27 Er ei fod yn llond ei groen ac yn iacha'i lwynau'n gryfion,
28 mae'n byw mewn trefi fydd yn cael eu dinistrio,ac mewn tai lle bydd neb ar ôl;rhai fydd yn ddim mwy na pentwr o rwbel.