28 mae'n byw mewn trefi fydd yn cael eu dinistrio,ac mewn tai lle bydd neb ar ôl;rhai fydd yn ddim mwy na pentwr o rwbel.
29 Fydd e ddim yn aros yn gyfoethog,a fydd yr hyn sydd ganddo ddim yn para;fydd ganddo ddim eiddo ar wasgar drwy'r wlad.
30 Fydd e ddim yn dianc o'r tywyllwch.Fel coeden a'r fflamau wedi llosgi ei brigau;bydd Duw yn anadlu arno, a bydd yn diflannu.
31 Dylai beidio trystio'r hyn sy'n ddiwerth, a'i dwyllo ei hun,fydd dim yn cael ei dalu'n ôl iddo.
32 Bydd yn gwywo o flaen ei amser,cyn i'w frigau gael cyfle i flaguro.
33 Bydd fel gwinwydden yn gollwng ei grawnwin;neu goeden olewydd yn bwrw ei blodau.
34 Mae cwmni pobl annuwiol fel coeden ddiffrwyth;ac mae tân yn llosgi pebyll y rhai sy'n derbyn breib.