6 Dy eiriau dy hun sy'n dy gondemnio – nid fi;mae dy geg yn tystio yn dy erbyn di!
7 Ai ti oedd y dyn cyntaf i gael ei eni?Oeddet ti'n bodoli cyn y bryniau?
8 Oeddet ti wedi clustfeinio ar gyfrinachau Duw?Ai ti ydy'r unig un doeth?
9 Beth wyt ti'n ei wybod fwy na ni?Beth wyt ti'n ei ddeall nad ydyn ni'n ei ddeall?
10 Mae oedran a gwallt gwyn o'n plaid ni –dw i wedi byw yn hirach na dy dad!
11 Ydy'r cysur mae Duw'n ei gynnig ddim digon?Mae ei eiriau mor garedig a thyner.
12 Pam wyt ti'n gadael i deimladau dy reoli?Mae dy lygaid yn dangos dy fod wedi gwylltio.