1 Dyma Job yn ateb:
2 “Dw i wedi clywed hyn i gyd o'r blaen;Dych chi i gyd yn gysurwyr gwael!
3 Oes dim diwedd i'r malu awyr yma?Beth sy'n dy gorddi di fod rhaid i ti gael y gair olaf?
4 Gallwn innau siarad â chi yr un fathpetaech chi yn fy lle i.Gallwn i eich drysu chi â geiriau diddiwedd,ac ysgwyd fy mhen arnoch chi.
5 Ond eich calonogi chi fyddwn i'n wneud;eich cysuro chi, a lleddfu'r boen.