17 Ond dw i ddim wedi gwneud niwed i neb,ac mae fy ngweddïau'n ddidwyll.
18 Ddaear, paid gorchuddio fy ngwaed!Paid gadael i'm protest fynd o'r golwg!
19 Hyd yn oed nawr, mae gen i dyst yn y nefoedd;mae Un all sefyll gyda mi yn yr uchelder!
20 Ond mae fy ffrindiau'n fy nirmygu,tra dw i'n wylo dagrau o flaen Duw.
21 O na fyddai e'n dadlau achos creadur meidrol,fel rhywun yn amddiffyn ei ffrind.
22 Does gen i ddim llawer o flynyddoedd i fyndcyn y bydda i'n cerdded y llwybr di-droi-nôl.