10 Mae rhaff wedi ei chuddio ar y ddaear i'w ddal;mae magl ar ei lwybr.
11 Mae'n cael ei ddychryn o bob cyfeiriad,ac mae ofnau'n ei ddilyn i bobman.
12 Mae trychineb yn ysu amdano;a dinistr yn disgwyl iddo lithro.
13 Mae ei groen yn cael ei fwyta gan afiechyd,a'i gorff yn dioddef y farwolaeth fwya erchyll.
14 Mae'n cael ei lusgo allan o'i babell ddiogel,a'i alw i ymddangos o flaen brenin braw.
15 Mae tân yn byw yn ei babell,a brwmstan yn cael ei chwalu dros ei gartre.
16 Mae ei wreiddiau yn crino oddi tano,a'i ganghennau'n gwywo uwch ei ben.