8 Mae'n cerdded yn syth i'r rhwyd,ac yn camu ar y fagl.
9 Mae ei droed yn cael ei dal mewn trap,a'r fagl yn tynhau amdani.
10 Mae rhaff wedi ei chuddio ar y ddaear i'w ddal;mae magl ar ei lwybr.
11 Mae'n cael ei ddychryn o bob cyfeiriad,ac mae ofnau'n ei ddilyn i bobman.
12 Mae trychineb yn ysu amdano;a dinistr yn disgwyl iddo lithro.
13 Mae ei groen yn cael ei fwyta gan afiechyd,a'i gorff yn dioddef y farwolaeth fwya erchyll.
14 Mae'n cael ei lusgo allan o'i babell ddiogel,a'i alw i ymddangos o flaen brenin braw.