2 “Am faint mwy dych chi'n mynd i'm poenydio,a'm dryllio gyda'ch areithio?
3 Dych chi'n fy nwrdio i dro ar ôl tro,ac yn fy hambygio yn gwbl haerllug.
4 A hyd yn oed petai'n wir fy mod ar fai,dim ond fi fyddai'n dioddef wedyn!
5 Ond mae'n rhaid i chi ddangos eich bod chi'n well na fi,a defnyddio'r hyn dw i'n ddiodde i brofi eich pwynt!
6 Dylech weld fod Duw wedi gwneud cam â mi;mae wedi f'amgylchynu ac yn gwarchae yn fy erbyn.
7 Dw i'n gweiddi, ‘Trais!’ ond does neb yn ateb;gweiddi am help, ond does dim tegwch.
8 Mae Duw wedi blocio fy ffordd; alla i ddim dianc!Mae wedi gwneud fy llwybr yn dywyll.