20 Dw i'n ddim byd ond croen ac esgyrna dw i'n dal yma o drwch blewyn!
21 Byddwch yn garedig ata i! Chi ydy fy ffrindiau!Mae Duw wedi fy nharo i!
22 Pam mae'n rhaid i chi hefyd fy erlid, fel Duw?Oes yna ddim diwedd ar eich ymosodiadau?
23 O na fyddai fy ngeiriau yn cael eu hysgrifennu i lawr,a'u cofnodi'n glir mewn sgrôl;
24 eu naddu ar graig gyda chŷn haearn,a'u llenwi â phlwm i gael eu gweld am byth!
25 Ond dw i'n gwybod fod fy Amddiffynnwr yn fyw,ac yn y diwedd y bydd yn sefyll ar y ddaear i dystio ar fy rhan,
26 hyd yn oed ar ôl i'm croen i gael ei ddifa.Ond cael gweld Duw tra dw i'n dal yn fyw – dyna dw i eisiau,