22 Pam mae'n rhaid i chi hefyd fy erlid, fel Duw?Oes yna ddim diwedd ar eich ymosodiadau?
23 O na fyddai fy ngeiriau yn cael eu hysgrifennu i lawr,a'u cofnodi'n glir mewn sgrôl;
24 eu naddu ar graig gyda chŷn haearn,a'u llenwi â phlwm i gael eu gweld am byth!
25 Ond dw i'n gwybod fod fy Amddiffynnwr yn fyw,ac yn y diwedd y bydd yn sefyll ar y ddaear i dystio ar fy rhan,
26 hyd yn oed ar ôl i'm croen i gael ei ddifa.Ond cael gweld Duw tra dw i'n dal yn fyw – dyna dw i eisiau,
27 ei weld drosof fy hun;i'm llygaid i ei weld, nid rhywun arall:Dw i'n hiraethu am hynny fwy na dim.
28 Wrth ofyn, ‘Sut allwn ni ei erlid e?’ac wrth ddweud, ‘Arno fe'i hun mae'r bai!’