10 Bydd rhaid i'w feibion dalu'n ôl i'r tlodion;bydd ei blant yn gollwng gafael ar ei gyfoeth.
11 Yn ifanc, a'i esgyrn yn llawn egni,bydd yn gorwedd yn y llwch heb ddim.
12 Er bod drygioni'n blasu'n felys iddo,a'i fod yn ei gadw o'r golwg dan ei dafod,
13 i gadw'r blas yn ei geg,a cheisio ei rwystro rhag darfod;
14 bydd yn suro yn ei stumog,ac fel gwenwyn gwiber yn ei fol.
15 Bydd yn chwydu'r holl gyfoeth a lyncodd;bydd Duw yn gwneud iddo gyfogi.
16 Roedd wedi sugno gwenwyn y wiber;ac mae neidr arall yn ei frathu a'i ladd.