2 “Dw i ddim yn hapus o gwbl!Dw i'n teimlo fod rhaid i mi ateb.
3 Dw i wedi gwrando arnat ti'n ceryddu a sarhau,ac mae pob rheswm yn fy nghymell i ateb:
4 Wyt ti ddim yn sylweddoli? – ers cyn cof,pan gafodd pobl eu gosod ar y ddaear gyntaf –
5 dydy pobl ddrwg ddim yn cael dathlu'n hir.Fydd yr annuwiol ddim ond yn hapus dros dro.
6 Er i'w falchder dyfu'n dal,nes i'w ben gyffwrdd y cymylau,
7 bydd yn pydru fel ei garthion, ac yn diflannu am byth!Bydd y rhai oedd yn ei nabod yn gofyn, ‘Ble aeth e?’
8 Bydd wedi hedfan i ffwrdd fel breuddwyd wedi ei hanghofio;fel gweledigaeth ddaeth yn y nos ac yna diflannu.