25 Wrth geisio ei thynnu allan o'i gefn,a blaen y saeth o'i iau,mae dychryn yn dod drosto.
26 Mae tywyllwch dudew yn disgwyl am ei drysorau,a bydd tân heb ei gynnau gan berson dynol yn ei losgi'n ulw,ac yn difa popeth sydd ar ôl yn ei babell.
27 Bydd y nefoedd yn dod â'i ddrygioni i'r golwg;bydd y ddaear yn codi i'w gyhuddo.
28 Bydd ei gartref yn cael ei ysgubo i ffwrdd gan lifogydd;gan y llifeiriant ar ddydd digofaint Duw.