18 Pa mor aml maen nhw'n cael eu chwythu i ffwrdd fel gwellt,neu fel us yn cael ei gipio ymaith gan y gwynt?
19 Ydy Duw yn cosbi plant yr annuwiol yn eu lle?Dylai gosbi'r annuwiol eu hunain – iddyn nhw ddysgu eu gwers!
20 Gad iddyn nhw brofi dinistr eu hunain,ac yfed o ddigofaint yr Un sy'n rheoli popeth!
21 Dŷn nhw'n poeni dim beth fydd yn digwydd i'w teuluoeddpan fydd eu dyddiau eu hunain wedi dod i ben!
22 All rhywun ddysgu gwers i Dduw?Onid fe sy'n barnu'r angylion yn y nefoedd uchod?
23 Mae un dyn yn marw pan mae'n iach ac yn ffit,yn braf ei fyd ac yn ofni dim;
24 yn edrych yn dda,a'i esgyrn yn gryfion.