8 Mae eu plant yn cael bywyd da gyda nhw,ac maen nhw'n byw i weld plant eu plant.
9 Mae eu cartrefi'n saff, does dim rhaid ofni,a dŷn nhw ddim yn profi gwialen Duw'n eu cosbi.
10 Mae eu teirw'n bridio heb fethu,a'u gwartheg yn cael lloi heb golli'r un.
11 Mae eu plant bach yn cael rhedeg yn rhydd,ac yn prancio o gwmpas yn hapus fel ŵyn.
12 Yn canu'n llon gyda'r tambwrîn a'r delyn,a mwynhau gwrando ar alaw'r ffliwt.
13 Mae nhw'n cael byw yn braf am flynyddoedd,ac yna marw'n dawel a mynd i'r bedd mewn heddwch.
14 Eu hagwedd at Dduw ydy, ‘Gad lonydd i ni,does gynnon ni ddim eisiau gwybod am dy ffyrdd di!