1 A dyma Eliffas o Teman yn ymateb:
2 “All person dynol fod o unrhyw help i Dduw?Ydy dyn doeth o unrhyw fudd iddo?
3 Ydy'r Un sy'n rheoli popeth ar ei ennill os wyt ti'n ddieuog?Oes mantais iddo dy fod ti'n byw yn iawn?
4 Ydy e'n dy alw i gyfri am dy fod wedi byw'n dduwiol?Ai dyna pam mae e'n dy farnu di?
5 Na, mae'n rhaid dy fod wedi gwneud drwg,ac wedi pechu'n ddiddiwedd!
6 Wedi cymryd gwystl oddi ar bobl heb achos,a'u gadael nhw yn noeth, heb ddillad.
7 Wnest ti ddim rhoi dŵr i'r sychedig ei yfed,na bara i'w fwyta i bobl oedd yn newynu.