10 Dyna pam rwyt ti wedi dy ddal yn y picil yma,ac yn sydyn yn cael dy hun mewn panig.
11 Mae hi mor dywyll arnat ti, alli di weld dim,ac mae'r llifogydd ar fin dy foddi di!
12 Ydy Duw ddim yn y nefoedd uchod?Edrych ar y sêr pellaf sy mor uchel!
13 Ond rwyt ti'n dweud, ‘Beth mae Duw'n ei wybod?Ydy e'n gallu barnu drwy'r cymylau duon?
14 Dydy e ddim yn gweld, am fod cymylau yn ei guddiowrth iddo gerdded o gwmpas yn entrychion y nefoedd!’
15 Wyt ti am ddilyn yr un hen ffordd dywyllmae pobl annuwiol wedi ei cherdded? –
16 Cawson nhw eu cipio i ffwrdd o flaen eu hamser,pan lifodd y dilyw dros eu sylfeini.