12 Ydy Duw ddim yn y nefoedd uchod?Edrych ar y sêr pellaf sy mor uchel!
13 Ond rwyt ti'n dweud, ‘Beth mae Duw'n ei wybod?Ydy e'n gallu barnu drwy'r cymylau duon?
14 Dydy e ddim yn gweld, am fod cymylau yn ei guddiowrth iddo gerdded o gwmpas yn entrychion y nefoedd!’
15 Wyt ti am ddilyn yr un hen ffordd dywyllmae pobl annuwiol wedi ei cherdded? –
16 Cawson nhw eu cipio i ffwrdd o flaen eu hamser,pan lifodd y dilyw dros eu sylfeini.
17 Roedden nhw'n dweud wrth Dduw, ‘Gad lonydd i ni!’a ‘Beth mae'r Un sy'n rheoli popeth yn gallu ei wneud i ni?’
18 Ac eto Duw oedd yn llenwi eu tai â phethau da! –Dydy ffordd pobl ddrwg o feddwl yn gwneud dim sens i mi!