12 Dych chi wedi gweld y peth eich hunain,felly pam dych chi'n dal i siarad y fath nonsens?
13 Dyma mae pobl ddrwg yn ei gael gan Dduw,a'r gormeswr yn ei dderbyn gan yr Un sy'n rheoli popeth:
14 Er iddo gael llawer o blant – cânt eu taro â'r cleddyf;fydd gan ei deulu ddim digon o fwyd.
15 Bydd y rhai sy'n goroesi yn marw o'r pla,a fydd dim amser i'r gweddwon alaru.
16 Er casglu pentwr o arian fel pridd,a thomen o ddillad fel baw –
17 gall gasglu'r cwbl, ond y cyfiawn fydd yn eu gwisgo,a'r diniwed fydd yn rhannu'r arian.
18 Mae'r tŷ mae'n ei godi yn frau fel cocŵn gwyfyn,neu'r lloches dros dro mae'r gwyliwr yn ei greu.