2 “Mor sicr â'i fod yn fyw, dydy Duw ddim wedi bod yn deg!Mae'r Un sy'n rheoli popeth wedi gwneud fy enaid yn chwerw!
3 Tra mae bywyd yn dal ynof i,ac anadl Duw yn fy ffroenau,
4 wna i byth ddweud gair o gelwydd,na siarad yn dwyllodrus.
5 Wna i byth gytuno mai chi sy'n iawn!Bydda i'n onest hyd fy medd –
6 Dw i'n dal i fynnu mai fi sy'n iawn;mae fy nghydwybod i'n glir!
7 Boed i'm gelyn gael ei drin fel un drwg;yr un sy'n ymosod arna i, fel yr anghyfiawn.
8 Pa obaith sydd i'r annuwiol pan mae'n marw,a Duw yn dwyn ei fywyd oddi arno?