1 Job oedd y cyntaf i siarad, a melltithiodd y diwrnod y cafodd ei eni.
2 Dyma ddwedodd e:
3 “O na fyddai'r diwrnod y ces i fy ngeniyn cael ei ddileu o hanes! –y noson honno y dwedodd rhywun,‘Mae bachgen wedi ei eni!’
4 O na fyddai'r diwrnod hwnnw yn dywyllwch,fel petai'r Duw sydd uchod heb erioed ei alw i fod,a golau dydd heb wawrio arno!
5 O na fyddai tywyllwch dudew yn ei guddio;a chwmwl yn gorwedd drosto,a'r düwch yn ei ddychryn i ffwrdd!
6 O na fyddai tywyllwch dudew wedi cipio'r noson honno,fel na fyddai'n cael ei chyfrif yn un o ddyddiau'r flwyddyn,ac na fyddai i'w gweld ar galendr y misoedd!