10 am ei bod heb gloi drysau croth fy mam,a'm rhwystro rhag gweld trybini.
11 Pam wnes i ddim cael fy ngeni'n farw,neu ddarfod wrth ddod allan o'r groth?
12 Pam oedd gliniau yn disgwyl amdana i,a bronnau i mi ddechrau eu sugno?
13 Heb hynny byddwn yn gorwedd yn dawel,yn cysgu'n drwm a gorffwys yn y bedd,
14 gyda brenhinoedd a'u cynghorwyr,y rhai fu'n codi palasau sydd bellach yn adfeilion;
15 gydag arweinwyr oedd â digon o aur,ac wedi llenwi eu tai ag arian.
16 Pam na ches i fy nghuddio fel erthyl marw,neu fabi wnaeth ddim gweld y golau?