14 gyda brenhinoedd a'u cynghorwyr,y rhai fu'n codi palasau sydd bellach yn adfeilion;
15 gydag arweinwyr oedd â digon o aur,ac wedi llenwi eu tai ag arian.
16 Pam na ches i fy nghuddio fel erthyl marw,neu fabi wnaeth ddim gweld y golau?
17 Yn y bedd mae holl brysurdeb pobl ddrwg wedi peidio,a'r gweithwyr oedd dan orthrwm yn cael gorffwys.
18 Mae caethion yn cael ymlacio'n llwyr,heb lais y meistri gwaith yn gweiddi.
19 Mae pobl fawr a chyffredin yno fel ei gilydd,a'r caethwas yn rhydd rhag ei feistr.
20 Pam mae Duw'n rhoi golau i'r un sy'n dioddef,a bywyd i'r rhai sy'n chwerw eu hysbryd?