20 Pam mae Duw'n rhoi golau i'r un sy'n dioddef,a bywyd i'r rhai sy'n chwerw eu hysbryd?
21 Maen nhw'n ysu am gael marw, ond yn methu –yn chwilio am hynny yn fwy na thrysor cudd.
22 Maen nhw'n hapus, ac yn dathlu'n llawenpan maen nhw'n cyrraedd y bedd.
23 Pam rhoi bywyd i berson heb bwrpas,a'i gau i mewn rhag dianc o'i drybini?
24 Yn lle bwyta dw i'n gwneud dim ond ochneidio;dw i'n griddfan ac yn beichio crïo.
25 Mae'r hyn oeddwn yn ei ofni wedi digwydd;yr hyn oedd yn peri arswyd wedi dod yn wir.
26 Does gen i ddim llonydd, dim heddwch,dim gorffwys – dim ond trafferthion.”