1 Ond bellach mae hogiau ifancyn gwenu'n wawdlyd arna i;rhai y byddwn i'n rhoi mwy o sylwi'm cŵn defaid nag i'w tadau nhw!
2 Dynion rhy wan i fod o iws i mi –dynion wedi colli pob cryfder.
3 Dynion sy'n denau o angen a newyn,yn crwydro'r tir sych,a'r diffeithwch anial yn y nos.
4 Maen nhw'n casglu planhigion gwyllt,a gwreiddiau'r banadl i gadw'n gynnes.
5 Dynion wedi eu gyrru allan o gymdeithas,a pobl yn gweiddi arnyn nhw fel lladron.