16 Bellach mae fy enaid yn drist,a dyddiau dioddef wedi gafael ynof fi.
17 Mae poenau yn fy esgyrn drwy'r nos,a gewynnau'r corff yn cnoi'n ddi-baid.
18 Mae Duw wedi gafael yn dynn yn fy nillad,a'm tagu gyda choler fy nghrys.
19 Mae e wedi fy nhaflu i'r mwd;dw i'n ddim byd ond llwch a lludw.
20 O Dduw, dw i'n gweiddi am dy help, ond does dim ateb;dw i'n sefyll o dy flaen, ond dwyt ti'n cymryd dim sylw.
21 Rwyt ti wedi troi mor greulon tuag ata i;a'm taro mor galed ac y medri.
22 Ti wedi fy nghodi ar y corwynt;a'm taflu o gwmpas yn y storm.