18 Mae Duw wedi gafael yn dynn yn fy nillad,a'm tagu gyda choler fy nghrys.
19 Mae e wedi fy nhaflu i'r mwd;dw i'n ddim byd ond llwch a lludw.
20 O Dduw, dw i'n gweiddi am dy help, ond does dim ateb;dw i'n sefyll o dy flaen, ond dwyt ti'n cymryd dim sylw.
21 Rwyt ti wedi troi mor greulon tuag ata i;a'm taro mor galed ac y medri.
22 Ti wedi fy nghodi ar y corwynt;a'm taflu o gwmpas yn y storm.
23 Dw i'n gwybod fy mod i'n mynd i farw,a mynd i'r lle sydd wedi ei bennu i bopeth byw.
24 Wnes i erioed godi fy llaw i darorhywun oedd yn galw am help yn ei drybini!