2 Dynion rhy wan i fod o iws i mi –dynion wedi colli pob cryfder.
3 Dynion sy'n denau o angen a newyn,yn crwydro'r tir sych,a'r diffeithwch anial yn y nos.
4 Maen nhw'n casglu planhigion gwyllt,a gwreiddiau'r banadl i gadw'n gynnes.
5 Dynion wedi eu gyrru allan o gymdeithas,a pobl yn gweiddi arnyn nhw fel lladron.
6 Maen nhw'n byw ar waelod ceunentydd,mewn tyllau yn y ddaear ac ogofâu.
7 Maen nhw'n brefu fel anifeiliaid yng nghanol y chwyn,ac yn swatio gyda'i gilydd dan y llwyni.
8 Pobl ddwl a da i ddim,wedi eu gyrru i ffwrdd o gymdeithas.