22 Ti wedi fy nghodi ar y corwynt;a'm taflu o gwmpas yn y storm.
23 Dw i'n gwybod fy mod i'n mynd i farw,a mynd i'r lle sydd wedi ei bennu i bopeth byw.
24 Wnes i erioed godi fy llaw i darorhywun oedd yn galw am help yn ei drybini!
25 Ro'n i'n wylo dros y rhai oedd yn cael amser caled,ac yn torri fy nghalon dros y tlawd.
26 Ond wrth ddisgwyl y da, ddaeth dim ond drwg;wrth edrych am olau, daeth tywyllwch.
27 Dw i'n corddi y tu mewn i mi,wrth wynebu dydd ar ôl dydd o ddioddef.
28 Mae fy nghroen wedi duo, ond nid yn yr haul;dw i'n sefyll yn y sgwâr ac yn pledio am help.