27 Dw i'n corddi y tu mewn i mi,wrth wynebu dydd ar ôl dydd o ddioddef.
28 Mae fy nghroen wedi duo, ond nid yn yr haul;dw i'n sefyll yn y sgwâr ac yn pledio am help.
29 Dw i'n swnio fel brawd i'r siacal,neu gymar i'r estrys.
30 Mae fy nghroen wedi tywyllu,a'm corff drwyddo yn llosgi gan wres.
31 Felly mae fy nhelyn yn canu alaw drist,a'm ffliwt yn cyfeilio i'r rhai sy'n galaru.