1 Dw i wedi ymrwymoi beidio llygadu merch ifanc.
2 Beth fyddai rhywun felly'n ei dderbyn gan Dduw?Beth fyddai'n ei gael gan yr Un uchod sy'n rheoli popeth?
3 Onid i'r annuwiol mae dinistr yn cael ei roi,a thrychineb i'r un sy'n gwneud drwg?
4 Ydy e ddim wedi gweld sut dw i wedi byw?Ydy e ddim wedi gwylio pob cam?
5 Ydw i wedi cymysgu gyda'r rhai celwyddog?Neu wedi bod yn rhy barod i dwyllo?
6 Dylai fy mhwyso i ar glorian sy'n gywir,iddo weld fy mod i'n gwbl ddieuog.