21 Os gwnes i fygwth yr amddifad,wrth weld fod gen i gefnogaeth yn y llys,
22 yna boed i'm hysgwydd gael ei thynnu o'i lle,a'm braich gael ei thorri wrth y penelin.
23 Roedd gen i ofn i Dduw anfon dinistr;allwn i byth wynebu ei fawredd!
24 Ydw i wedi rhoi fy hyder mewn aur,a theimlo'n saff am fod gen i aur coeth?
25 Wnes i orfoleddu yn y cyfoeth,a'r holl feddiannau oedd gen i?
26 Wnes i edrych ar yr haul yn tywynnu,a'r lleuad yn symud yn ei ysblander,
27 nes i'm calon gael ei hudo'n dawel fach,a'm llaw yn taflu cusan i'w haddoli?