27 nes i'm calon gael ei hudo'n dawel fach,a'm llaw yn taflu cusan i'w haddoli?
28 Byddai hynny hefyd yn bechod i'w gosbi –byddwn wedi gwadu'r Duw sydd uchod.
29 Oeddwn i'n falch pan oedd fy ngelyn mewn helynt,neu'n cael gwefr o weld pethau'n ddrwg arno?
30 Na, wnes i ddweud dim yn ei erbynna'i felltithio yn y gobaith y byddai'n marw.
31 Oes unrhyw un o'm teulu wedi dweud,‘Pam gafodd hwn a hwn ddim croeso wrth fwrdd Job’?
32 Doedd dim rhaid i'r crwydryn gysgu allan ar y stryd,am fod fy nrws yn agored i deithwyr.
33 Ydw i wedi ceisio cuddio fy meiau fel Adda,neu gladdu fy mhechod dan fy mantell,