30 Na, wnes i ddweud dim yn ei erbynna'i felltithio yn y gobaith y byddai'n marw.
31 Oes unrhyw un o'm teulu wedi dweud,‘Pam gafodd hwn a hwn ddim croeso wrth fwrdd Job’?
32 Doedd dim rhaid i'r crwydryn gysgu allan ar y stryd,am fod fy nrws yn agored i deithwyr.
33 Ydw i wedi ceisio cuddio fy meiau fel Adda,neu gladdu fy mhechod dan fy mantell,
34 am fod gen i ofn barn y dyrfa,a dirmyg pawb o'm cwmpas?– cadw'n dawel a dewis peidio mynd allan.
35 O na fyddai gen i rywun i wrando arna i!Dw i'n llofnodi f'amddiffyniad!Boed i'r Un sy'n rheoli popeth fy ateb!Boed i'r un sy'n cyhuddo ddod â gwŷs ddilys yn fy erbyn!
36 Byddwn i'n ei chario'n gyhoeddus,a'i gwisgo fel coron ar fy mhen.