35 O na fyddai gen i rywun i wrando arna i!Dw i'n llofnodi f'amddiffyniad!Boed i'r Un sy'n rheoli popeth fy ateb!Boed i'r un sy'n cyhuddo ddod â gwŷs ddilys yn fy erbyn!
36 Byddwn i'n ei chario'n gyhoeddus,a'i gwisgo fel coron ar fy mhen.
37 Byddwn yn rhoi cyfrif iddo am bob cam,ac yn camu o'i flaen yn hyderus fel tywysog.
38 Os ydy'r tir wedi gweiddi yn fy erbyn,a'i gwysi wedi wylo â'i gilydd –
39 Os ydw i wedi dwyn ei gnwd heb dalu,ac achosi i'r tenantiaid lwgu,
40 yna boed i fieri dyfu yn lle gwenith,a chwyn ffiaidd yn lle haidd!”Roedd Job wedi gorffen siarad.