7 Os ydw i wedi crwydro o'i ffyrdda gadael i'm llygaid ddenu'r galon,neu os oes staen drygioni ar fy nwylo,
8 yna boed i eraill fwyta'r cynhaeaf wnes i ei hau,ac i'r cnwd a blennais gael ei ddinistrio!
9 Os cafodd fy nghalon ei hudo gan wraig rhywun arall,a minnau'n dechrau loetran wrth ddrws ei thŷ,
10 boed i'm gwraig i falu blawd i ddyn arall,a boed i ddynion eraill orwedd gyda hi!
11 Am i mi wneud peth mor ffiaidd –pechod sy'n haeddu ei gosbi.
12 Mae fel tân sy'n dinistrio'n llwyr,ac yn llosgi fy eiddo i gyd.
13 Ydw i wedi diystyru cwyn caethwasneu forwyn yn fy erbyn erioed?