9 Os cafodd fy nghalon ei hudo gan wraig rhywun arall,a minnau'n dechrau loetran wrth ddrws ei thŷ,
10 boed i'm gwraig i falu blawd i ddyn arall,a boed i ddynion eraill orwedd gyda hi!
11 Am i mi wneud peth mor ffiaidd –pechod sy'n haeddu ei gosbi.
12 Mae fel tân sy'n dinistrio'n llwyr,ac yn llosgi fy eiddo i gyd.
13 Ydw i wedi diystyru cwyn caethwasneu forwyn yn fy erbyn erioed?
14 Beth wnawn i pe byddai Duw yn codii edrych ar y mater? Sut fyddwn i'n ei ateb?
15 Onid Duw greodd nhw, fel fi, yn y groth?Onid yr un Duw sy wedi'n gwneud ni i gyd?