11 Mae wedi rhoi fy nhraed mewn cyffion,ac yn gwylio popeth dw i'n ei wneud.’
12 Dwyt ti ddim yn iawn. A gwna i ddweud pam:Mae Duw yn fwy na dyn.
13 Pam wyt ti'n dadlau yn ei erbyn?Oes rhaid iddo ateb pob cwestiwn?
14 Mae Duw yn siarad mewn un ffordd un tro,ac mewn ffordd wahanol dro arall –ond er hynny dydy pobl ddim yn deall.
15 Mewn breuddwyd, neu weledigaeth yn y nos,pan mae pobl yn cysgu'n drwm;pan maen nhw'n gorwedd ar eu gwlâu.
16 Mae e'n gwneud i bobl wrando –yn eu dychryn nhw gyda rhybudd
17 i beidio gwneud rhywbeth,a'u stopio nhw rhag bod mor falch.