18 Mae'n achub bywyd rhywun o bwll y bedd,rhag iddo groesi afon marwolaeth.
19 Mae'n disgyblu un sy'n sâl yn ei welya chryndod di-baid drwy ei esgyrn.
20 Mae bwyd yn codi cyfog arno;does ganddo awydd dim byd blasus.
21 Mae wedi colli cymaint o bwysau,nes bod ei esgyrn i gyd yn y golwg.
22 Mae'n agos iawn at y bedd,bron â'i gipio gan negeswyr marwolaeth.
23 Ond os daw angel at ei ochr(dim ond un o'i blaid, un o blith y mil)i ddadlau ei hawl drosto –
24 yna bydd Duw yn drugarog wrtho.‘Achubwch e rhag mynd i lawr i'r bedd;dw i wedi cael y pris i'w ollwng yn rhydd.’