24 yna bydd Duw yn drugarog wrtho.‘Achubwch e rhag mynd i lawr i'r bedd;dw i wedi cael y pris i'w ollwng yn rhydd.’
25 Yna bydd ei groen yn iach fel pan oedd yn ifanc;bydd ei egni yn ôl fel yn nyddiau ieuenctid!
26 Bydd yn gweddïo, a bydd Duw'n gwrando;bydd yn gweiddi'n llawen wrth fynd i'w bresenoldeb,a bydd Duw yn ei adfer i berthynas iawn ag e'i hun.
27 Bydd yn canu o flaen pobl,‘Pechais, a gwneud y peth anghywir,ond ches i mo'r gosb o'n i'n ei haeddu.
28 Mae e wedi fy achub o afael y bedd;dw i'n dal yn fyw, ac yn gweld y golau!’
29 Yn wir, mae Duw yn gwneud hyndrosodd a throsodd:
30 achub bywyd o bwll y bedd,iddo gael gweld goleuni bywyd.