27 Bydd yn canu o flaen pobl,‘Pechais, a gwneud y peth anghywir,ond ches i mo'r gosb o'n i'n ei haeddu.
28 Mae e wedi fy achub o afael y bedd;dw i'n dal yn fyw, ac yn gweld y golau!’
29 Yn wir, mae Duw yn gwneud hyndrosodd a throsodd:
30 achub bywyd o bwll y bedd,iddo gael gweld goleuni bywyd.
31 Edrych, Job, gwranda arna i;gwrando'n dawel i mi gael siarad.
32 Os oes gen ti rywbeth i'w ddweud, ateb fi;dywed, achos dw i eisiau dangos dy fod ti'n iawn.
33 Ond os oes gen ti ddim i'w ddweud, gwranda arna i;gwrando'n dawel, ac fe ddysga i beth sy'n ddoeth i ti.”