2 “Wyt ti'n meddwl ei bod hi'n iawni ti ddweud, ‘Fi sy'n iawn, nid Duw’?
3 A dweud wrtho, ‘Pa fantais ydy e i ti?’a ‘Beth ydw i'n ennill o beidio pechu?’
4 Gad i mi dy ateb di –ti, a dy ffrindiau gyda ti.
5 Edrych i fyny i'r awyr, ac ystyria;Edrych ar y cymylau ymhell uwch dy ben.
6 Os wyt ti'n pechu, sut mae hynny'n effeithio ar Dduw?Os wyt ti'n troseddu dro ar ôl tro,beth wyt ti'n ei wneud iddo fe?
7 Os wyt ti'n gwneud beth sy'n iawn,sut mae hynny'n helpu Duw?Beth mae e'n ei dderbyn gen ti?
8 Pobl eraill sy'n diodde pan wyt ti'n gwneud drwg,neu'n cael eu helpu pan wyt ti'n gwneud beth sy'n iawn.