6 Os wyt ti'n pechu, sut mae hynny'n effeithio ar Dduw?Os wyt ti'n troseddu dro ar ôl tro,beth wyt ti'n ei wneud iddo fe?
7 Os wyt ti'n gwneud beth sy'n iawn,sut mae hynny'n helpu Duw?Beth mae e'n ei dderbyn gen ti?
8 Pobl eraill sy'n diodde pan wyt ti'n gwneud drwg,neu'n cael eu helpu pan wyt ti'n gwneud beth sy'n iawn.
9 Mae pobl sy'n cael eu gorthrymu yn gweiddi am help,ac yn galw am rywun i'w hachub o afael y rhai pwerus.
10 Ond does neb yn dweud, ‘Ble mae Duw, fy Nghrëwr,sy'n rhoi testun cân i mi pan mae'n nos dywyll?
11 Ble mae'r Duw sy'n dysgu mwy i ni na'r anifeiliaid,ac sy'n ein gwneud ni'n fwy doeth na'r adar?’
12 Ydyn, mae'r bobl yn gweiddi, ond dydy e ddim yn ateb,am eu bod nhw'n bobl ddrwg a balch.