1 A dyma Elihw yn mynd ymlaen i ddweud:
2 “Bydd yn amyneddgar â fi am ychydig,mae gen i fwy i'w ddweud ar ran Duw.
3 Dw i wedi derbyn gwybodaeth o bell,a dw i am ddangos mai fy Nghrëwr sy'n iawn.
4 Wir i ti, heb air o gelwydd,mae'r un sydd o dy flaen di wedi deall y cwbl.
5 Mae Duw yn rymus, ond dydy e ddim yn ddirmygus;mae'n rymus ac yn gwybod beth mae'n ei wneud.
6 Dydy e ddim yn gadael i bobl ddrwg fyw;mae'n sicrhau cyfiawnder i'r rhai sy'n dioddef.
7 Mae e'n gofalu am y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.Mae'n eu hanrhydeddu nhw,a'u gosod ar orseddau fel brenhinoedd.