12 Ond os na fyddan nhw'n gwrando,byddan nhw'n croesi afon marwolaeth,ac yn darfod heb ddeall dim.
13 Mae pobl annuwiol yn dal dig;dŷn nhw ddim yn gweiddi am help pan mae Duw'n eu disgyblu.
14 Maen nhw'n marw'n ifanc,ar ôl treulio'u bywydau gyda phuteinwyr.
15 Ond mae Duw'n defnyddio dioddefaint i achub pobl,ac yn defnyddio poen i'w cael nhw i wrando.
16 Y gwir ydy, mae am dy ddenu di oddi wrth ddibyn gofid,o'r gornel gyfyng i le agored;at fwrdd yn llawn o fwyd blasus.
17 Ond rwyt ti'n wynebu barn Duw ar bobl ddrwg,a does dim dianc rhag ei farn gyfiawn.
18 Gwylia rhag i ti gael dy hudo gan gyfoeth,ac i faint y breib dy arwain ar gyfeiliorn.