19 Fyddai dy holl gyfoeth o unrhyw help yn dy helbul?Na fyddai, na dy holl ddylanwad chwaith!
20 Paid dyheu am y nos,pan mae pobl yn cael eu cipio i ffwrdd.
21 Gwylia rhag troi at y drwg –dyna pam ti'n dioddef ac yn cael dy brofi.
22 Edrych, mae nerth Duw yn aruthrol;Pwy sy'n athro tebyg iddo?
23 Pwy sy'n dweud wrtho beth i'w wneud?Pwy sy'n gallu dweud, ‘Ti wedi gwneud peth drwg’?
24 Cofia mai dy le di ydy canmol ei waith,sef y rheswm mae pobl yn ei foli ar gân.
25 Mae'r ddynoliaeth i gyd wedi gweld ei waith,mae pobl feidrol yn syllu arno o bell.