24 Cofia mai dy le di ydy canmol ei waith,sef y rheswm mae pobl yn ei foli ar gân.
25 Mae'r ddynoliaeth i gyd wedi gweld ei waith,mae pobl feidrol yn syllu arno o bell.
26 Ydy, mae Duw yn fawr – y tu hwnt i'n deall ni;does dim modd cyfri hyd ei oes e!
27 Mae'n codi dafnau o ddŵrsy'n diferu'n law mân fel tarth.
28 Mae'r cymylau'n tywallt y glaw,mae'n arllwys yn gawodydd ar y ddaear.
29 Oes rhywun yn deall sut mae'r cymylau'n lledu,a'r taranau sydd yn ei bafiliwn?
30 Edrych, mae'r mellt yn lledu o'i gwmpas,ac yn goleuo gwaelod y môr.