8 Ond os ydyn nhw'n gaeth mewn cyffion,wedi eu rhwymo â rhwydi gorthrwm,
9 mae e'n dangos iddyn nhw beth wnaethon nhwi droseddu, a bod mor haerllug.
10 Mae e'n gwneud iddyn nhw wrando drwy eu disgyblu,a dweud wrthyn nhw am droi cefn ar eu drygioni.
11 Os gwnân nhw wrando a bod yn ufudd iddo,byddan nhw'n llwyddo am weddill eu bywydau,ac yn cael blynyddoedd o hapusrwydd.
12 Ond os na fyddan nhw'n gwrando,byddan nhw'n croesi afon marwolaeth,ac yn darfod heb ddeall dim.
13 Mae pobl annuwiol yn dal dig;dŷn nhw ddim yn gweiddi am help pan mae Duw'n eu disgyblu.
14 Maen nhw'n marw'n ifanc,ar ôl treulio'u bywydau gyda phuteinwyr.